

Adnoddau i ysgolion
Eisiau dod â Tyfu i Garu yn fyw yn eich ysgol? Mae ganddon ni amrywiaeth o adnoddau, prosiect y GOEDEN GREFFT, prosiectau crefft, siartiau gworbwyo, cynlluniau gwersi a fideos i helpu chi ar eich siwrne tyfu tomatos.
Ac wrth gwrs, ein canllaw i athrawon a’r holl wybodaeth sydd angen arnoch chi i anfon adref i annog y rhieni i fod yn rhan o’r profiad tyfu arbennig yma dros wyliau’r haf.

Canllawiau…
Dyma lle allwch chi lawrlwytho ein canllawiau ar sut i redeg y rhaglen ar gyfer athrawon a’r canllaw i rieni a gofalwyr.

Canllaw digidol athrawon
Popeth sydd angen ei wybod am dyfu tomatos eich hunan yn rhan o’r canllaw 28 tudalen i athrawon. Sganiwch y côd QR i wylio’r fideos a defnyddio’r tudalennau cynllunio i gymryd nodiadau. Mae fersiwn wedi ei argraffu yn dod gyda pob pecyn.

Taflen ddigidol i rieni a gofalwyr
Anfonwch y daflen ddigidol i rieni a gofalwyr ar gychwyn y tymor, fel eu bod yn ymwybodol fod y plant yn tyfu eu tomatos eu hunan ac yn dod â nhw adref dros wyliau’r haf.

Prosiectau crefft
Mae prosiectau crefft yn ffordd wych o annog a chyffroi eich disgyblion ac mae digon ‘da ni ar eich cyfer chi. Siartiau gwobrwyo, masgiau gwyneb, coron i’w liwio a gwisgo a llewys ar gyfer y pot planhigyn i addurno silff ffenest eich ystafell ddosbarth, ac wrth gwrs y prosiect Y. Goeden Grefft.

Byddwch yn barod ar gyfer prosiect crefft hwyl a chydweithredol!
Bydd y dosbarth i gyd yn adeiladu coeden tomato lliwgar i addurno eich dosbarth neu ysgol.
Mae pob pecyn tyfu yn cynnwys 1 x 32 pecyn Y Goeden Grefft.
Gallwch ddewis eu torri neu gludo nhw gyd gyda ei gilydd i adeiladu y goeden. Gallwch wneud sawl siap coeden gwahanol i siwtio eich lleoliad, ac arbrofi gyda gwahanol siapiau a lleoliadau…
Lawrlwytho ac argraffu mwy o ddarnau crefft!
Chwilio am syniadau? Triwch rhain.
Cyfarwyddiadau Y Goeden Grefft

Masgiau gwyneb
Lawrlwythwch ac addurnwch ein masgiau gwyneb tomato – gweithgaredd lliwio hwyl! Bydd angen sisiwrn, llinyn a pennau lliwio, pensiliau neu greonau (ddim yn cael eu darparu).

Siartiau gwyneb
Mae’n bryd i’r tomato fod yn ffefryn! Mae’r siart yma yn helpu plant i gymryd camau bach i fwynhau tomatos blasus, llawn sudd. Mae pob arogl, llyfu neu flas yn fuddugoliaeth – adeiladu hyder, archwilio blasau newydd a datblygu’n bencampwr tomato!

Coron
Mae ein coron llysiau thema Shaun the Sheep poblogaidd yn ymrwymo’r plant – bydd angen sisiwrn, glud papur neu dâp gludiog a pennau lliwio, pensiliau neu greonau (ddim yn cael eu darparu).

Llewys potyn planhigion
Lawrlwythwch ac addurnwch ein llewys potiau planhigion thema tomato. Bydd angen argraffu, sisiwrn, glud papur neu dâp gludiog a pennau lliwio, pensiliau neu greonau (ddim yn cael eu darparu).

Fideos
Ddim yn hyderus yn garddio neu ddim yn siwr sut neu beth i wneud gyda Caru i Dyfu Tomatos? Peidiwch â phoeni, mae popeth wedi ei sortio i chi gyda deg fideo i’ch arwain chi trwy’r holl broses.
Cychwyn: Cyflwyniad i dyfu
Mae’r cyflwynydd teledu Sam Nixon a’r garddwr teledu Chris Collins wedi creu cyfres o fideos i’w defnyddio yn y dosbarth i baratoi pob rhan o’r prosiect ac archwilio themâu ychwanegol o amgylch tomatos.
Mae’r un cyntaf yma yn lle gwych i gychwyn pan yn cyflwyno’r plant i’r prosiect.

Cynlluniau gwersi
I gefnogi’r ymgyrch yn y dosbarth rydym wedi creu cyfres o wersi sy’n cyd-fynd gyda’r maes llafur ar gyfer pob dosbarth. Mae’r gwersi i gyd yn cyd-fynd gyda’r maes llafur cenedlaethol ac mae modd eu defnyddio ar gyfer gwersi gwyddoniaeth (planhigion), coginio a maeth a bwyta’n iach.

Addysg Blynyddoedd Cynnar
Deall y Byd
Amrywiaeth o weithgareddau wedi eu selio ar domatos ar gyfer addysg blynyddoedd cynnar.

Blwyddyn 1
Bydd disgyblion yn cael eu cyflwyno i domatos ac yn gwneud salad tomato syml.
Cynnwys themâu coginio a maeth.

Blwyddyn 2
Bydd disgyblion yn archwilio’r gwahanol fathau o domatos ac o lle y daw nhw ar draws y byd.
Cynnwys themâu coginio a maeth.

Blwyddyn 3
Bydd disgyblion yn archwilio beth ddylai fod ar blât iachus (yn cynnwys tomatos!)
Cynnwys themâu coginio a maeth.
Beth sydd angen ar blanhigion i dyfu?

Blwyddyn 4
Bydd disgyblion yn archwiiio pa mor amlbwrpas yw tomato a faint o brydau gwahanol mae modd eu gwneud gyda tomato.
Cynnwys themâu coginio a maeth.

Blwyddyn 5
Bydd disgyblion yn archwiiio pa mor amlbwrpas yw tomato a sut i wneud saws pasta syml.
Cynnwys themâu coginio a maeth.
Dull gwaith prosiect pitsa:

Blwyddyn 6
Bydd disgyblion yn archwilio’r cysyniad o dymhorau bwyd ac effaith bwyta lleol.
Cynnwys themâu coginio a maeth.