Skip to content

Tyfu i Garu…

Watch our video

Tyfu i Garu…

Ry’n ni eisiau i blant garu llysiau. Un o’r ffyrdd gorau i ddatblygu y cariad yna yw trwy dyfu eich hunan. Mae Veg Power wedi gweithio’n ofalus gyda’n partneriaid i ddatblygu ffordd creadigol ac atyniadol i blant dyfu i garu…llysiau.

Pam tyfu?

Mae tyfu llysiau yn annog plant i drio bwyd mae nhw’n cynhyrchu, yn datblygu dealltwriaeth o’r gadwyn fwyd a chynaliadwyaeth, ac yn annog dysgu ymarferol wedi ei sefydlu ar y maes llafur.

Adnoddau i ysgolion

Rydyn ni’n darparu pecynnau cyflawn barod i’w defnyddio i athrawon prysur, wedi eu dosbarthu mewn un bocs yn sicrhau rhaglen tyfu tomatos hwyl ac effeithiol. Mae pecynnau yn cynnwys hadau, compost, bwyd planhigion a phopeth sydd ei angen ar gyfer profiad llwyddiannus yn yr ystafell ddosbarth. Gallwch hau’r hadau yn Ebrill gan ddilyn y canllaw i athrawon.

Beth mae pobl yn dweud…

Yn 2024 fe wnaeth dros 20,000 o blant mewn ysgolion ar draws y DU dyfu eu tomatos eu hunan o hadau i ffrwyth. Fe wnaeth enwogion ymuno â nhw yn cynnwys y Cyflwynydd Teledu Sam Nixon, garddwr Blue Peter Chris Collins a Shaun the Sheep.

Dyma beth wnaeth ein arolwg athrawon a gymrodd ran ddweud…

Mae hwn wedi bod yn brofiad tyfu gwych. Mae’r plant wedi mwynhau magu’r planhigion ac rydyn ni wedi cael cystadleuaeth yn yr ysgol sydd wedi bod yn boblogaidd.

Mae’r pecynnau tomato yn hawdd eu defnyddio ac mae’r plant yn dwli ar y llyfrynau sydd yn dod gyda’r pecynnau tyfu. Mae’r nodiadau athrawon yn hawdd eu defnyddio, hyd yn oed i rai sydd ddim yn garddio!

Mae’r plant yn mwynhau gwylio’r hadau yn tyfu. Fe wnaethon ni ddefnyddio yr adnoddau i ddysgu sut i dyfu planhigion a gwylio’r fideos i ddangos i ni sut i ofalu amdanyn nhw.

Dwi’n dwli ar y rhaglen gan ei fod yn hawdd ei ddefnhyddio ac mae popeth yn cael ei ddarparu i’r plant eu defnyddio. Mae’n syniad gwych i gael y plant i ddysgu sut i dyfu pethau.

Roedden ni wrth ein bodd gyda safon yr adnoddau. Roedd popeth yn cael ei gynnwys, yn cynnwys mathau gwahanol o bridd i weld y planhigion trwy’r adegau gwahanol o dyfu. Labeli, hadau, tai gwydr bach ayyb.

Hollol wych. Roedd y plant yn caru popeth o’r plannu i gwblhau’r siartiau sticeri! Adnoddau arbennig! Diolch yn fawr,

Diolch am y cyfle gwych i’n plant ni. Ry’n ni’n edrych ymlaen at gymryd rhan blwyddyn nesaf eto. Diolch eto!

Roedd y prosiect i gyd yn ddefnyddiol iawn ac yn rhoi profiad ymarferol i’r plant dyfu pethau o hadau bach iawn i fod yn blanhigion, a gallu pigo tomatos i’w bwyta ar y diwedd.

Mae ein cynnwys Tyfu i Garu wedi ei greu gyda rhodd ariannol gan Hazera.

Ein partneriaid

Mae Shaun the Sheep a delwedd Shaun yn nod masnach Aardman Animations Limited 2024.